Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 27 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Ken Skates Gwyn R Price David Rees Aled Roberts Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Russell AJ Frith, Assistant Auditor General, Audit Scotland Mark Taylor, Assistant Director, Audit Scotland Terry Jones, Technical Manager, Wales Audit Office Kevin Thomas, Assistant Auditor General, Wales Audit Office |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Webber (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru
1.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod canfyddiadau adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2. Ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone a Julie Morgan. Roedd David Rees a Ken Skates yn dirprwyo ar eu rhan.
3. Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru 2010-11
3.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2010-11 i’r Pwyllgor.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:
· Nodyn yn esbonio a oedd y lleihad a gafwyd mewn costau eiddo o ganlyniad i uno’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2005 (i greu Swyddfa Archwilio Cymru) wedi cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd a ragwelwyd.
· Rhagor o fanylion am y cynnydd mewn absenoldeb salwch hirdymor yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y flwyddyn diwethaf.
4. Trafodaeth am yr Amcangyfrif o Incwm a Gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben 31 Mawrth 2012
4.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei amcangyfrif atodol ar gyfer 2011-12 i’r Pwyllgor.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
· Manylion am strategaeth TGCh Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf.
5. Materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.
5.2 Bydd y Pwyllgor yn cytuno ar aelodaeth y grŵp gorchwyl a gorffen yn ffurfiol yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2011.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor y bydd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnal ar 11 Hydref 2011.
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.